OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 1830 (Cy. 184) (C. 78)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i ddarpariaethau Rhan 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) mewn perthynas â phum ardal awdurdod lleol.
Mae hefyd yn cychwyn pwerau penodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â phob rhan o Gymru lle nad ydynt eisoes mewn grym. Mae erthygl 2 yn cychwyn adrannau 58(10) a 59(2) o’r Mesur sy’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodol i roi effaith i Ran 3 o’r Mesur, ac fe’u dygir i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Gorchymyn hwn ei wneud.
Mae’r darpariaethau yn Rhan 3 o’r Mesur eisoes mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Powys, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Rhan 3 mewn perthynas â phum ardal awdurdod lleol pellach yng Nghymru, sef Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Sir Fynwy a Thorfaen, ar 31 Gorffennaf 2013.
Mae darpariaethau Rhan 3 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol a restrir i sefydlu un neu fwy o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu tîm ICiD. Mae adran 58 yn nodi’r mathau o achosion a all gael eu hatgyfeirio i dîm ICiD ac mae adran 58(6) yn nodi’r categorïau o oedolion a gaiff fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy’n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio’r timau ICiD.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adran 2 (i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdodau Cymreig) |
10 Ionawr 2011 |
O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 4,5 a 6 |
10 Ionawr 2011 |
O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adran 11 (ac eithrio is-adrannau (3) a (4)) |
1 Tachwedd 2012 |
O.S. 2012/2453 (Cy.267) (C.96) |
Adran 12 |
31 Ionawr 2012 |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Adrannau 17 ac 18 |
10 Ionawr 2011 |
O.S. 2010/2994 (Cy.248) (C.134) |
Adrannau 19-56 |
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adrannau 57, 58 (1), (3)-(5), (6)(a), (7)-(14) |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87) |
|
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
|
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) |
Adran 58(2) |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
|
|
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Adrannau 59, 60(2), 61, 62(1), 64 a 65 |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
|
|
28 Chwefror 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) a 31 Mawrth 2012 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig eraill) |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
|
1 Chwefror 2013 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2013/18 (Cy.9) (C.2) |
Adrannau 60(1), 62(2) a 63 |
1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig) |
O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
|
|
27 Ionawr 2012 (mewn perthynas â’r ardaloedd yng Nghymru sy’n weddill) |
O.S. 2012/191 (Cy.30) (C.5) |
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-28
|
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
Adran 73 ac Atodlen 2 (i’r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006) |
1 Ebrill 2011 |
O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 1830 (Cy. 184) (C. 78)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 7) 2013
Gwnaed 18 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r
Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
(Cychwyn Rhif 7) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno yng Nghymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Cychwyn drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn
2.—(1) Daw darpariaethau Mesur 2010 a bennir ym mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw:
(a) adran 58(10) (dosbarthu swyddogaethau ac atgyfeiriadau awdurdodau lleol); a
(b) adran 59(2) (cyllid a gwariant).
Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 31 Gorffennaf 2013
3.—(1)(1) Daw
darpariaethau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a bennir ym
mharagraff (2), i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, i rym
ar 31 Gorffennaf 2013 mewn perthynas â’r ardaloedd
awdurdod lleol a ganlyn—
(a) Blaenau Gwent;
(b) Caerffili;
(c) Sir y Fflint;
(d) Sir Fynwy; ac
(e) Torfaen.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd);
(b) adran 58 (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd) ac eithrio is-adran (6)(b), (c) a (d);
(c) adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd);
(d) adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd);
(e) adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(f) adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);
(g) adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd);
(h) adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Gorffennaf 2013